Yn ffynnu trwy amser

Dyffryn Maes Glas yn y 19eg a'r 20fed ganrif

O ddirywiad y diwydiant copr ar ddechrau'r 19eg ganrif i dwf gweithfeydd pres a thecstilau, esblygodd tirwedd ddiwydiannol Treffynnon ynghanol heriau a newidiadau economaidd.

Yn y 19eg ganrif, roedd Treffynnon yn wynebu heriau economaidd wrth i’r diwydiant copr ddirywio. Daeth mentrau newydd i'r amlwg, gan drawsnewid hen adeiladau melin, tra bod twf mewn cynhyrchu pres a thecstilau wedi dechrau llunio tirwedd ddiwydiannol esblygol y dref.

Ni lwyddodd y Dyffryn i adennill ffyniant yr 1780au a gwelwyd dirywiad yn y diwydiant copr ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn bennaf oherwydd mewnforion rhatach o dramor. Yn raddol, diflannodd y diwydiannau a greodd y ffyniant yn Nhreffynnon gan adael dirwasgiad a diweithdra difrifol.

Wrth i’r hen ddiwydiannau ddirywio, daeth rhai eraill i gymryd eu lle gan ailddefnyddio ac adnewyddu hen adeiladau’r melinau a'r seilwaith. Daeth cwmnïau fel Newton-Lyon i gymryd drosodd hen safleoedd y Parys Mine Company ac agor gweithfeydd pres. Yn yr 1830au, Treffynnon oedd y drydedd ganolfan o ran pwysigrwydd yn y diwydiant creu pres (brass) ym Mhrydain.

Daeth y fasnach gotwm yn gystadleuol dros ben ac er i bŵer stêm gael ei gyflwyno, roedd melinau Maes Glas yn rhy fychan ac yn methu cystadlu â melinau cotwm mawr Swydd Gaerhirfryn. Roedd llafur plant yn dal yn gyffredin yn llawer o ffatrïoedd y Dyffryn, gyda llawer o blant yn cael eu gorfodi i weithio oriau maith.

Ni ddaeth dyfodiad y rheilffordd i Dreffynnon yn 1869 â’r adfywiad economaidd a ddisgwyliwyd. Daeth yr Holywell Railway Company a chymryd drosodd yr hen dramffyrdd a fu’n cario nwyddau o’r chwareli i lawr i’r Doc. Er nad oedd yn llwyddiant ysgubol, agorwyd gorsaf newydd Cyffordd Treffynnon yn 1913. Hon oedd y rheilffordd fwyaf serth i deithwyr ym Mhrydain, â graddiant o 1 mewn 27.

Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Holywell Textile Mill wedi ennill ei phlwyf am wneud dillad gwlân. Er bod llawer o ddiwydiannau’n wynebu trafferthion yn ystod y rhyfel, gwelodd eraill, fel y felin decstilau, eu cyfle wrth gynhyrchu gwisgoedd milwyr. Roedd Courtaulds yn tyfu’n gwmni rhyngwladol yn yr 1920au, gan greu ffibrau newydd ffasiynol fel Rayon. Erbyn yr 1960au, roeddent wedi codi dwy ffatri newydd ym Maes Glas a chyflogent filoedd o bobl o’r ardal. Roedd yr Abbey Paper Mill, a sefydlwyd yn 1821, yn gyflogwr mawr arall a lwyddodd i ddal ati’n hirach na nifer o ddiwydiannau byrhoedlog y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gau ei drysau yn 1982.

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs