Mae’r amgueddfa’n dal nifer fawr o ffotograffau yn ei chasgliad yn ogystal â gwrthrychau o’r ffatri a Melin Decstilau Treffynnon yr oedd hefyd yn berchen arni. Mae'r rhan fwyaf o'r gwrthrychau yn cael eu harddangos yn y Shippon ac mae'r ffotograffau ar gael i'w gweld trwy apwyntiad.
Lleolir offer troelli a pheiriannau o'r ffatrïoedd y tu allan i adeilad Melin cotwm isaf, taith gerdded fer i fyny'r Dyffryn o'r Amgueddfa. Defnyddiwyd y rhain ar gyfer golchi'r ffibrau mewn soda costig. I gael gwybod mwy am y broses o greu rayon a hanes Courtaulds ewch i'n harddangosfa yn yr Amgueddfa.
Ceir rhagor o wybodaeth am arddangosfa Courtaulds ar Wefan Amgueddfeydd Sir y Fflint




Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs