Dyffryn Maes Glas Barwise

cofiannau ffermio

Casgliad John Barwise

Treuliodd John Barwise hanner can mlynedd yn casglu pethau cofiadwy ffermio, yn adfer a phaentio rhannau peiriannau a phlatiau enw â llaw.

Dechreuodd ei frwdfrydedd yn ifanc pan gynorthwyodd ei dad ar eu fferm. Yn ddeg oed gyrrodd dractor Fordson ei dad i dorri deg erw o ŷd.

Er i'r fferm gael ei gwerthu yn 1957, parhaodd i ffermio a dechreuodd ei gasgliad o offer fferm.

"Byddai'n mynd i gymaint o werthiannau fferm ag y gallai a byddech yn aml yn dod o hyd iddo'n chwilota drwy'r eitemau sgrap yn chwilio am blatiau enwau o hen beiriannau." Terry Barwise, brawd John.

Ei uchelgais oedd dechrau ei amgueddfa ei hun ond pan fu farw John yn 2016 rhoddwyd y casgliad yn lle hynny i Amgueddfa Dyffryn Maes Glas lle gellid ei arddangos gyda phethau cofiadwy eraill am ffermio. Mae’r casgliad o wrthrychau’n helaeth ac amrywiol ac yn cynnwys amrywiol offer ffermio, seddi tractor, cloriannau pwyso, tuniau a photeli, a nifer fawr o blatiau enw peiriannau.

Darganfyddwch ein hamgueddfa, archwilio ein casgliadau, ymweld â'n harddangosfeydd, ac ymgolli yn nhreftadaeth gyfoethog Dyffryn Maes Glas.

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs