Casgliad Melin Decstilau Treffynnon | Ffynnon Gwenffrewi

gwlân o ansawdd uchel

Casgliad Melin tecstilau Treffynnon

Roedd Melin Decstilau Treffynnon yn adnabyddus am ei threftadaeth gyfoethog o ran cynhyrchu tecstilau o ansawdd uchel, gan arddangos crefftwaith diwydiannol yr ardal.

Roedd y Felin wrth ymyl Ffynnon Gwenffrewi ac fel llawer o ffatrïoedd roedd yn defnyddio dŵr ffynnon yn y broses weithgynhyrchu.

Cynhyrchodd y ffatri lawer o gynhyrchion gwlân o ansawdd uchel gan gynnwys siacedi tweed, tapestrïau a blancedi wedi'u gwneud o wlân Jacob. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd roedd y ffatri'n cynhyrchu gwisgoedd i filwyr Ffrainc a Phrydain.

Caeodd y ffatri yn yr 1980au a chafodd ei dymchwel yn rhannol er bod yr adeilad siop yn dal i aros. Mae gan yr Amgueddfa nifer o wrthrychau sy'n gysylltiedig â'r felin a arbedwyd o lawr y ffatri, gan gynnwys cribau cardio, gwenoliaid a byrddau cyfri sypau, yn ogystal ag enghreifftiau o'u cynhyrchion. Ceir hefyd archif ffotograffig bach. Cyflogwyd llawer o bobl leol yma a chofnodwyd eu hatgofion yn yr Amgueddfa fel cofnod sain. Ymwelwch â'r Amgueddfa i glywed eu straeon.

Gyferbyn gwelwn siaced wlân i Ferched a wnaed ac a werthwyd ym Melin Decstilau Treffynnon, 1970au.

Darganfyddwch ein hamgueddfa, archwilio ein casgliadau, ymweld â'n harddangosfeydd, ac ymgolli yn nhreftadaeth gyfoethog Dyffryn Maes Glas.

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs