Mae Dyffryn Maes Glas yn cael ei redeg gan elusen, ac mae’n cynnwys y Parc Treftadaeth a’r Ganolfan Ymwelwyr (mynediad â thâl), y coetiroedd o amgylch ac Abaty Dinas Basing (am ddim), adeiladau a henebion hanesyddol a’r Caffi. Mae pob tocyn a werthir yn cynhyrchu arian sy'n cael ei ail-fuddsoddi yn y Cwm.