Y dechrau

Hanes cynnar Dyffryn Maes Glas

Mae dŵr sy’n tarddu yn Nhreffynnon ac yn llifo’n gyflym i lawr i’r môr wedi cerfio hanes y dyffryn hwn.

Mae hanes Dyffryn Maes Glas yn cychwyn o feddiannaeth y Rhufeiniaid i'r cyfnod canoloesol, ac mae'n cynnwys datblygiadau arwyddocaol fel Clawdd Wat, ffynnon y Santes Gwenffrewi, ac Abaty Dinas Basing, sydd oll yn hanfodol i ddiwydiant a diwylliant yr ardal.

Mae hanes Dyffryn Maes Glas yn tarddu’n llythrennol o’r llif parhaus o ddŵr a oedd yn hanfodol i ddiwydiannau, amaethyddiaeth a bywyd bob dydd y bobl.

Y dystiolaeth gynharaf sydd gennym am bobl yn yr ardal yw darnau o grochenwaith Rhufeinig a ganfuwyd wrth wneud gwaith adeiladu ar Ganolfan Ymwelwyr yr Amgueddfa. Denwyd y Rhufeiniaid i’r ardal gan fwynau yn y tir uwchlaw Treffynnon.

Erbyn dechrau’r canoloesoedd, roedd y Dyffryn wedi dod yn bwysig fel rhan o ffin â Theyrnasoedd Lloegr. Y dystiolaeth gynharaf sydd gennym o hyn yw darn o Glawdd Wat (ffos a chlawdd amddiffynnol a godwyd yn yr 8fed ganrif i nodi'r terfyn). Tua’r un pryd, dechreuodd pererinion gyrchu’r ffynnon yn Nhreffynnon. Cawsent eu denu gan chwedl Santes Gwenfrewi a phwerau iacháu honedig y dŵr. Credir bod eglwys wedi’i chodi tua 1093 a chastell lle cafodd Harri II loches pan ymwelodd â’r ffynnon.

Er mwyn gofalu am ymwelwyr â’r ffynnon, sefydlodd mynachod o Urdd Sauvigny fynachdy yma yn Ninas Basing tuag 1131. Rhoddwyd siarter Frenhinol yn 1157 a arweiniodd at adeiladu Abaty cerrig a rhagor o ddatblygiadau yn y Dyffryn. Roedd y mynachod yn ffermio’r tir o amgylch Abaty Dinas Basing ac yn defnyddio dŵr o’r Dyffryn i ddyfrio’r ŷd ac i bweru eu pandai cyn i’r Abaty gael ei ddiddymu yn 1536.


Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs