Teithiai pererinion i Ffynnon Santes Gwenfrewi yn Nhreffynnon, wedi'u denu gan rymoedd iachusol y dyfroedd.
Clawdd pridd o’r Oesoedd Canol yw Clawdd Wat. Roedd yn 40 milltir o hyd, yn rhedeg o Ddyffryn Maes Glas i Lysfeisir (Maesbury) yn swydd Amwythig. Adeiladwyd ef i nodi'r terfyn rhwng dwy gymuned hynafol. Mae'n un o henebion hynaf y Dyffryn, yn dyddio'n ôl tua 1,200 o flynyddoedd.
Sefydlwyd yr Abaty yn 1132 gan Ranulf de Gernon, 4ydd Iarll Caer, a oedd eisoes wedi dod â mynachod Benedictaidd draw o Abaty Savigny yn ne Normandi. Daeth yr abaty'n rhan o'r Urdd Sistersaidd yn 1147.
Cyflwynwyd diwydiannau bach fel mwyndoddi plwm i'r Dyffryn. Roedd y rhain yn wenwynig i blanhigion ac anifeiliaid.
Roedd tair melin ŷd a dwy felin snisin yn y Dyffryn. Adeiladwyd Doc hefyd ym Maes Glas yn y 18fed ganrif fel y gellid masnachu â Lerpwl.
Y felin hon, a adeiladwyd o fewn deg wythnos yn haf 1785, oedd y drydedd o bedair melin a godwyd gan y Cotton Twist Company a sefydlwyd gan John Smalley a Peter Atherton yn yr 1770au.
Hwn oedd safle melin rowlio a morthwylio y Greenfield Copper and Brass Company. Codwyd y felin yn 1787 ac roedd yn rhan bwysig o Deyrnas Gopr Thomas Williams, oedd yn cynnwys cloddio copr a chynhyrchu nwyddau ohono. Roedd Meadow Mill yn darparu copr a phres parod ar gyfer ei felinau eraill yn y Dyffryn, fel y felin wifrau a'r felin forthwylio.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes Courtaulds a hanes y Dyffryn a'r ardal gyfan. Roedd Courtaulds yn dal i dyfu'n gwmni rhyngwladol yn yr 1920au. Erbyn yr 1960au roedd wedi adeiladu dwy ffatri newydd ym Maes Glas.
Roedd poblogaeth Treffynnon wedi tyfu i dros 5500 o bobl ond gwelwyd dirywiad yn y diwydiant copr o ganlyniad i fewnforion rhatach o dramor, gan achosi dirwasgiad a diweithdra yn yr ardal. Aeth ffatri Meadow Mill i ddwylo cwmni Newton Keates yn yr 1850au. Bu’n waith plwm am gyfnod ac yna’n waith tunplat. Yna, aeth yn felin rolio pres a thynnu gwifrau. Yn yr 1890au, cymerodd William Eyre y safle ar brydles a’i droi’n waith malu a phrosesu rwber.
Mrs Emma Parry oedd athrawes gyntaf ysgol Spring Gardens. Cewch wybod mwy amdani hi yn ein hysgol Fictoraidd.
Adeiladwyd rheilffordd Treffynnon i gludo nwyddau i lawr i lanfa Treffynnon. Caewyd hi yn 1957.
Agorwyd gorsaf newydd yng Nghyffordd Treffynnon yn 1913.
Roedd y melinau tecstilau yn ffynnu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn gwneud gwisgoedd milwyr.
Bu athrawes arall o'r enw Miss Parry yn bennaeth yr ysgol tan 1932 ac fe gafodd set o lestri te wedi'u gwneud o arian yn anrheg gan y plant ar ei hymddeoliad.
Aeth yr ysgol yn rhy fach ar gyfer nifer y plant ac fe gaewyd hi.
Mae'r llun yn dangos tai bach Tai Coed ger Fferm yr Abaty. Adeiladwyd y teras hwn ar gyfer y gweithwyr. Mae olion y tai i'w gweld ar y llwybr trwy'r coed a welwch gyferbyn â safle'r felin.
Symudwyd adeiladau a achubwyd o fannau eraill yn Sir y Fflint i Ddyffryn Maes Glas i greu amgueddfa awyr agored.
Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs