Chwyldro Diwydiannol Gogledd Cymru Treffynnon Dyffryn Maes Glas

Chwyldro diwydiannol

Hanes diwydiannol Dyffryn Maes Glas

Pwysigrwydd Dyffryn Maes Glas o ddiwedd yr 16eg ganrif i ddechrau'r 19eg ganrif.

 

 

Erbyn diwedd yr 16eg ganrif, roedd Treffynnon wedi dod yn dref fwyaf gogledd ddwyrain Cymru, a'r canrifoedd dilynol gwelwyd trawsnewidiad yn ei diwydiant, gan arwain at ffyniant a heriau yn nhirwedd economaidd y Cymoedd.

Erbyn diwedd yr 16eg ganrif, Treffynnon oedd tref fwyaf gogledd ddwyrain Cymru. Roedd diwydiannau bychain wedi eu cyflwyno megis mwyndoddi plwm ond yn wenwynig iawn i blanhigion ac anifeiliaid y dyffryn. Cwynodd trigolion lleol a thynnodd tyrfa flin hyd yn oed un adeilad mwyndoddi i lawr yn 1590.

Erbyn dechrau'r 18fed ganrif roedd nifer o ddiwydiannau mwy llwyddiannus yn gweithredu yno gan gynnwys tair melin ŷd a dwy felinau snisin. Yn yr 1750au ymddangosodd diwydiannau newydd, wedi eu sbarduno gan dechnolegau newydd ym maes mwyndoddi a thrin copr, sinc a mwynau eraill oedd yn cael eu cloddio'n lleol. Yn ogystal, roedd agosrwydd Maes Glas at afon Dyfrdwy yn fanteisiol er mwyn masnachu â Lerpwl a oedd yn tyfu fel canolfan fasnach ryngwladol. Adeiladwyd doc ym Maes Glas fel y gallai tua 40 o longau i hwylio oddi yno’n cario cargo o 30 i 50 o dunelli ar y tro.

Erbyn yr 1780au, ffatrïoedd copr a chotwm oedd amlycaf ymhlith diwydiannau niferus y Dyffryn. Roedd y Parys Mine Company yn dod â chopr o Ynys Môn i’w droi’n bowlenni a breichledau i’w masnachu yng Ngorllewin Affrica. Y cwmni hwn, yn anad yr un arall, a sicrhaodd fod i Faes Glas a Threffynnon le amlwg ar lwyfan economaidd y byd. Roedd y llongau pren a oedd yn hwylio ac yn masnachu mewn dyfroedd trofannol bob amser mewn perygl o gael eu difrodi gan folysgiaid y môr oedd yn tyrchu i’r pren. Felly gorchuddiwyd cyrff y llongau â dalenni copr. Â miloedd o longau Prydain yn masnachu dros y byd, roedd y dalenni a’r bolltau copr a grëwyd ym Maes Glas yn hanfodol i’r economi a daethant â llwyddiant a thwf i Dreffynnon a’r Dyffryn. Erbyn 1800, roedd mwy na 5500 o bobl yn byw yn Nhreffynnon ac adeiladwyd rhesi newydd o dai, fel Battery Row a Thai Coed, ar gyfer gweithwyr y ffatrïoedd. Ni pharodd y llwyddiant mawr ac roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod ansicr o ffyniant a methiant am yn ail.

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs