Darganfyddwch ein hystod hudolus o arddangosion

Casgliadau Parc Treftadaeth Dyffryn maes glas

Mae ein casgliad amgueddfa yn cynnwys amrywiaeth eang o arteffactau, gan gynnwys peiriannau fferm, eitemau cartref ac adeiladau hanesyddol.

Dechreuwyd y Casgliadau yn nyffryn Maesglas gan Gyfeillion Dyffryn Maes Glas ar ddechrau'r 1980au ac mae wedi tyfu drwy roddion dros y blynyddoedd.

Mae gennym ystod eang o wrthrychau yng nghasgliad ein hamgueddfa o beiriannau fferm i eitemau cartref ac adeiladau hanesyddol. Fe'i cychwynnwyd gan gyfeillion Dyffryn Maes Glas ar ddechrau'r 1980au ac mae wedi tyfu drwy roddion dros y blynyddoedd.

Agorwyd Amgueddfa Dyffryn Maes Glas yn 1982 ac mae wedi datblygu o amgylch adeiladau amaethyddol gwreiddiol Fferm yr Abaty a oedd yn dal yn fferm weithredol tan 1979. Cafodd adeiladau a arbedwyd o fannau eraill yn Sir y Fflint eu symud yma er mwyn creu amgueddfa awyr-agored sy’n cynnwys ffermdai hanesyddol ac ysgol Fictoraidd.

Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau’n dod o’r ganrif rhwng 1850 ac 1950 ac maent ar nifer o wahanol themâu, fel amaethyddiaeth, hanes cymdeithasol a hanes diwydiannol yr ardal.

Ceir manylion eraill am Amgueddfeydd a chasgliadau Sir y Fflint yn lleol yma.

Darganfyddwch ein hamgueddfa, archwilio ein casgliadau, ymweld â'n harddangosfeydd, ac ymgolli yn nhreftadaeth gyfoethog Dyffryn Maes Glas.

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs