Hanes Treffynnon

Abaty Dinas Basing

Yn gartref i Sistersaidd Monks sefydlwyd yr abaty ym 1131 a dyma gychwyn swyddogol Llwybr y Pererinion.

Canolfan grefyddol ganoloesol sy'n dal i fod yn fan pererindod

Yn rhan o rwydwaith o aneddiadau Sistersaidd a fu unwaith yn britho Cymru, sefydlwyd Abaty Dinas Basing ym 1131 a'i ailfodelu'n helaeth yn y 13eg ganrif. Er ei fod yn adfail, mae'n dal i roi cipolwg i ni ar fywydau'r mynachod a alwodd y lle yn gartref. Rhan hynaf yr abaty yw'r cabidyldy o'r 12fed ganrif, ac mae olion y meinciau lle'r oedd mynachod yn eistedd ar gyfer darlleniadau dyddiol. Wrth ei ymyl mae'r parlwr, yr unig le y caniateid i'r mynachod distaw siarad. Yr ystafell fwyaf trawiadol sydd wedi goroesi yw neuadd fwyta'r mynachod.

Mae Dinas Basing yn dal i fod yn safle crefyddol arwyddocaol. Dyma fan cychwyn Llwybr Pererinion Gogledd Cymru, llwybr cerdded hir sy'n ymestyn yr holl ffordd i Enlli, 'Ynys yr 20,000 o Seintiau'.

Darganfod mwy

Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs