Amgueddfa Dyffryn Maes Glas

Amgueddfa Dyffryn maes glas

Dewch i’r Amgueddfa a’r Ganolfan Ymwelwyr i ddarganfod ein hanes rhyfeddol, o’r dechreuadau cynnar fel Abaty i ddiwydiannau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Agorwyd Amgueddfa Dyffryn Maes Glas yn 1982 ac mae wedi datblygu o amgylch adeiladau amaethyddol gwreiddiol Fferm yr Abaty a oedd yn dal yn fferm weithredol tan 1979. Cafodd adeiladau a arbedwyd o fannau eraill yn Sir y Fflint eu symud yma er mwyn creu amgueddfa awyr-agored sy’n cynnwys ffermdai hanesyddol ac ysgol Fictoraidd.

Mae’r rhan fwyaf o’r eitemau’n dod o’r ganrif rhwng 1850 ac 1950 ac maent ar nifer o wahanol themâu, fel amaethyddiaeth, hanes cymdeithasol a hanes diwydiannol yr ardal.

Dysgwch fwy

o'r 8fed ganrif hyd heddiw

Darganfyddwch hanes ein Dyffryn


teithiau cerdded yng Ngogledd Cymru

Coedwig a llwybrau cerdded

Yn ychydig dros filltir o hyd, gyda henebion wedi'u gwasgaru drwyddo, mae Dyffryn Maesglas yn cynnig llwybrau cerdded ysblennydd drwy goetir cysgodol ar hyd hen Nant Treffynnon.

Dysgwch fwy

plant yn chwarae Gogledd Cymru

Hwyl i'r teulu

Dewch i chwarae yn ein tŷ coeden antur ffantastig, archwiliwch ein drysfa twnnel a gwneud sblash gyda'n gemau dŵr. Mae hwyl ar gyfer pob oedran, o chwarae meddal i'n drysfa tŵr mega!

Dysgwch fwy

Tref Treffynnon Gogledd Cymru

Ardaloedd cyfagos

Yn ogystal ag archwilio drwy adeiladau hanesyddol a choetiroedd y Cwm, rydym yn ddigon ffodus i gael digonedd o hanes ar ein stepen drws hefyd. Mae digon i'ch cadw'n brysur!

Dysgwch fwy

maes glas, Abaty Dinas Basing

Abaty Dinas Basing

Dewch i archwilio dros 1000 mlynedd o hanes yn Abaty Dinas Basing mewn amgylchedd gwyrdd heddychlon. Crwydrwch drwy adfeilion ystafelloedd lle'r oedd y mynachod yn arfer byw, gweithio a gweddïo.

Parc Fferm Maesglas Gogledd Cymru

bywyd gwyllt

Unwaith yn gartref i ddiwydiant, sŵn a llygredd, mae bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Mae'r nifer o byllau a oedd yn gysylltiedig gyda'r ffatrïoedd yn denu nifer fawr o adar a mamaliaid o las y dorlan, elyrch i foch daear.

histrocial adeiladau Gogledd Cymru

Adeiladau hanesyddol

Mae nicer o adeiladau hanesyddol yn frith o amgylch y Dyffryn. Treuliwch y diwrnod yn archwilio ein cartrefi a mannau gwaith yn dyddio o ganrifoedd heibio, o'n ffermdy Tuduraidd i'n hysgol Fictoraidd a hyd yn oed ein melinau cotwm.

Archebwch sesiwn bore neu brynhawn

Rydym bellach yn cymryd archebion ar-lein


Dyluniwyd ac Adeialdwyd y Wefan gan Daydream Designs